Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i gefnogi lles a llwyddiant academaidd ein myfyrwyr, rydym yn cyflwyno newidiadau pwysig i’n gweithdrefn Amgylchiadau Esgusodol a’r system Mentora Academaidd.
Rydym wedi bod yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr, yn gwrando ar adborth, ac yn ymgysylltu â Chynrychiolwyr Myfyrwyr i sicrhau bod y platfformau allweddol hyn yn cyd-fynd ag anghenion ein myfyrwyr.
Amgylchiadau Esgusodol
Mae’r Brifysgol wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr dros y chwe mis diwethaf i ddatblygu system Amgylchiadau Esgusodol newydd. Rydym wedi gwrando ar adborth a byddwn yn cyflwyno un ateb digidol i roi’r un profiad i’r holl fyfyrwyr ar draws y Brifysgol.
Ar hyn o bryd mae’r system newydd ar waith mewn rhai ysgolion a bydd yn cael ei chyflwyno yn ystod y flwyddyn academaidd i eraill.
Mae gwybodaeth am sut i gyflwyno cais am Amgylchiadau Esgusodol wedi’i chynnwys isod ar dudalennau gwe eich Cyfadran a’ch Ysgol.
- Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd (Ewch i Hyb eich Ysgol ar Canvas i gael mwy o wybodaeth)
- Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol (Ewch i Hyb eich Ysgol ar Canvas i gael mwy o wybodaeth)
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon, e-bostiwch dîm Cymorth eich Cyfadran. Gallwch gael mwy o wybodaeth am amgylchiadau esgusodol ar ein tudalen cwestiynau cyffredin.
Cyflwyno Tiwtoriaid Personol
Mae’r Brifysgol wedi lansio system Tiwtoriaid Personol newydd i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael yr arweiniad a’r cymorth cywir. Daw hyn yn sgîl adolygiad diweddar o’r System Mentoriaid Academaidd gan y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a’r myfyrwyr.
Caiff yr holl fyfyrwyr ar raglenni israddedig ac ôl-raddedig a addysgir Diwtor Personol, a fydd yn cynnig cymorth gyda datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol. Bydd tiwtoriaid personol wedi’u harfogi â’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol a’r hyder i’ch tywys drwy gydol eich taith yn y Brifysgol gan wella profiad y myfyrwyr a staff.
Mae eich adborth yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y fframwaith o Diwtoriaid Personol. Byddwn yn cysylltu â chi yn hwyrach eleni i gasglu eich barn a’ch sylwadau ar ba mor effeithiol y bu’r rôl wrth eich cefnogi chi.