Yr wythnos hon, byddwn yn croesawu’r Ysgrifennydd Clinton a’r Arlywydd Clinton i’r digwyddiad Arweinyddiaeth ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol ar Gampws y Bae, a gynhelir ddydd Iau 16 Tachwedd gerbron cynulleidfa wahoddedig o bartneriaid y Brifysgol, disgyblion ysgol, myfyrwyr a staff.

Oherwydd natur yr ymweliad hwn, bydd nifer o fesurau diogelwch ar waith sy’n ein gorfodi i wneud rhai newidiadau i’r amgylchedd gweithredu arferol ar Gampws y Bae, cyn eu hymweliad ac ar y diwrnod ei hun. Bydd rhagor o gamau diogelwch ar ein campws, ynghyd ag atalfa o gwmpas y Neuadd Fawr, a all effeithio ar deithio arferol rhwng adeiladau.

Yn ogystal, sylwer ar y canlynol:

  • Nos Fercher 15 Tachwedd, bydd Llyfrgell Campws y Bae ar gau o 8.00pm a bydd y Neuadd Fawr ar gau o 4.00pm, tan ddiwedd yr ymweliad. Bydd y ddau adeilad hyn yn ailagor fel arfer ddydd Gwener 17 Tachwedd.
  • Terfir ar y ffyrdd a’r safleoedd bws ar Gampws y Bae ddydd Iau 16 Tachwedd. Ni fydd bysiau’n mynd i mewn i’r campws ar y diwrnod hwnnw, ac yn lle hynny, byddant yn gollwng ac yn casglu pobl wrth y safle bws ar Ffordd Fabian. Bydd gwyriadau ffyrdd hefyd ar waith ar y campws drwy’r dydd. Bydd y gwasanaeth arferol yn ailddechrau ddydd Gwener 17 Tachwedd.
  • Yn olaf, bydd nifer mawr o ymwelwyr a gwesteion yn mynd i’r digwyddiad ar Gampws y Bae, a fydd yn effeithio ar y trefniadau parcio arferol ar y campws. Caiff gwesteion sy’n mynd i’r digwyddiad ddydd Iau 16 Tachwedd eu cyfeirio i ddefnyddio maes parcio’r staff, a fydd yn lleihau nifer y mannau sydd ar gael i fyfyrwyr a staff.

Diolch yn fawr i chi am eich dealltwriaeth, ac edrychwn ymlaen at gynnal digwyddiad mor arbennig yma ym Mhrifysgol Abertawe.

Niamh Lamond
Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu