Wrth i’r semester fynd yn ei flaen a’r nos yn dod yn gynt, rydym ni am gymryd eiliad i siarad am rywbeth pwysig – sef cyrraedd adref yn ddiogel – p’un a ydych chi’n dychwelyd adref yn dilyn noson allan, yn gorffen eich sifft yn y gwaith, neu’n dilyn sesiwn astudio yn y llyfrgell.

Dyma ychydig o bethau i’ch atgoffa o sut y gallwch chi gyrraedd adref yn ddiogel:

Mewn undod y mae nerth

Os ydych chi’n mynd allan gyda ffrindiau, beth am greu cynllun i aros mewn cysylltiad drwy gydol y noson. Gallech chi hyd yn oed creu grŵp WhatsApp i’w ddefnyddio drwy gydol y noson. Mae creu system bydi yn sicrhau na fydd neb yn cael ei adael.

Byddwch yn wyliadwrus

Arhoswch mewn ardaloedd wedi’u goleuo, gan osgoi cymryd y llwybr byr drwy fân-lwybrau, a dylech chi ymddiried yn eich greddf. Os na fydd rhywbeth yn teimlo’n dda, peidiwch ag oedi wrth ofyn am help.

Defnyddiwch dacsi cofrestredig

Os oes angen i chi fynd adref mewn tacsi, ceisiwch rannu â ffrindiau. Dylech chi hefyd:

  • Gymryd llun o’r bathodyn sy’n dangos rhif cofrestru’r tacsi, gan ddefnyddio eich ffôl symudol.
  • Eistedd y tu ôl i’r gyrrwr os ydych chi ar eich pen eich hun.
  • Ceisio rhannu’r daith â myfyrwyr eraill rydych chi’n eu hadnabod.
  • Peidio â mynd i mewn i gerbyd oni bai bod gan y gyrrwr dau fathodyn hunaniaeth sy’n cyfateb i’w gilydd; un yn y tacsi ar flaen y dangosfwrdd, ac un mae gyrrwr y tacsi yn ei wisgo.
  • Dylai fod yn gyrrwr yn unig, a dim teithwyr eraill eisoes yn y tacsi.
  • Dylai’r mesurydd fod yn weladwy, gyda phris y cytunir arno ar gyfer y daith.
  • Peidiwch byth â mynd i gerbyd oni bai eich bod chi’n sicr mai Tacsi Swyddogol yw e.

 Mae rhagor o wybodaeth a rhifau ffôn ar gael yma.

 

Ewch ar y Bws

Peidiwch â cherdded adref ar eich pen eich hun! Mae bws rhif 91 yn wasanaeth dydd a nos sy’n cysylltu Campws Singleton â Sgeti ac Uplands, Gorsaf Fysus Abertawe a Champws y Bae.

Batris llawn!

 Gwnewch yn siŵr bod eich ffôn wedi’i wefru’n llawn cyn mynd allan, rhag ofn y bydd angen i chi ei ddefnyddio’n annisgwyl. Os oes gennych chi fanc pŵer ychwanegol, rhowch ef yn eich poced rhag ofn y bydd eich batri’n mynd yn fflat.

Lawrlwythwch SafeZone

Mae’r ap defnyddiol hwn yn cynnig mynediad ar unwaith i chi at ein tîm diogelwch drwy eich ffôn symudol. Mae’n rhwydd lawrlwytho’r ap ac mae’n rhoi mynediad ar unwaith i chi at swyddogion diogelwch ar y campws ac mae ein tîm yn gymwys ac yn brofiadol fel ymatebwyr cyntaf.

Am fwy o wybodaeth, cysylltiadau defnyddiol ac am awgrymiadau ar sut i gadw’n ddiogel yn ystod eich amser yn y Brifysgol, ymwelwch â’n tudalen ‘Aros yn Ddiogel yn Abertawe’.

Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau gweddill y semester. Cadwch yn ddiogel a gofalwch am ein gilydd!