Bydd HybMyUni yn cynnig gwasanaeth llai ddydd Gwener 8 Rhagfyr.

Bydd ein desg yng Nghanolfan Wybodaeth y Tŵr ar gau drwy’r dydd. Bydd ein desg yn Llyfrgell Singleton ar agor fel arfer a gelli di ddal i gysylltu â ni drwy e-bost a thros y ffôn drwy’r dydd am wasanaeth ymatebol fel arfer.

Os oes gennyt ti apwyntiad yng Nghanolfan Wybodaeth y Tŵr ddydd Gwener 8 Rhagfyr, a wnei di aros yn y Dderbynfa a bydd y person rwyt ti wedi dod i’w weld yn dod i gwrdd â thi.

Bydd gwasanaeth llawn HybMyUni yn ailddechrau ddydd Llun 11 Rhagfyr am 8.30am.