Mewn ymateb i’ch adborth, rydym yn falch o roi gwybod i chi y bydd First Cymru yn cyflwyno gwelliannau i’ch gwasanaethau bws o 7 Ionawr.

Mae ein Swyddog Teithio Cynaliadwy wedi bod yn gweithio’n agos gyda First Cymru i fynd i’r afael â rhai o’r materion teithio ar fysiau rydych wedi bod yn eu codi.

Rydych wedi dweud wrthym y gall rhai gwasanaethau fod yn annibynadwy, yn brysur ac yn anghyson, ac nid ydych yn cyrraedd eich darlithoedd ar amser – mae hyn wedi bod yn broblem benodol i’r rhai ohonoch sy’n dod o lety yng nghanol y ddinas.

Mae First Cymru wedi ystyried eich adborth ac yn cyflwyno nifer o welliannau* i wasanaethau o 7 Ionawr:

Gwelliannau i wasanaethau yn ystod y tymor o 7 Ionawr

  • Bydd myfyrwyr sy’n teithio o Seren, Stryd y Berllan a Gorsaf Reilffordd Abertawe bellach yn cael gwasanaethau bws pwrpasol ar gyfer Campws Singleton a Champws y Bae. (Bydd gwasanaethau yn gadael bob 15 munud yn ystod oriau brig)
  • Bydd gan fyfyrwyr sy’n teithio o True a’r Roost wasanaethau a fydd yn gadael bob 30 munud o’r tu allan i flociau llety True a’r Roost. (yn gadael bob 15 munud yn ystod oriau brig)
  • Bydd y gwasanaeth 91 presennol, sy’n wasanaeth Campws i Gampws, yn mynd bob awr mewn modd mwy dibynadwy rhwng 6.05am a 7.00pm yn unig, a bydd y gwasanaeth 24 awr y dydd yn dod i ben.
  • Yn lle gwasanaeth 91, sef y gwasanaeth 24 awr y dydd, bydd gwasanaethau 90 a 92 bellach yn gweithredu gwasanaeth o 45am tan 3.41am o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd pob gwasanaeth yn gweithredu tan 22.42pm ar nos Sul.
  • Bydd y gwasanaethau 90 newydd (Gwasanaeth Crwn Campws y Bae) a gwasanaeth 92 (Gwasanaeth Crwn Campws Singleton) yn galw yng ngorsaf fysus Abertawe; felly bydd yn hawdd dal y bws a disgyn oddi arno yn rhwydwaith bysus ehangach Abertawe. Dylai’r llwybrau crwn newydd hefyd helpu o ran yr oedi ar fysus a achosir gan waith parhaus ar y ffyrdd yn Abertawe.
  • Bydd gwasanaeth 90A newydd yn gweithredu yn ystod oriau brig, gan ddarparu gwasanaeth 30 munud rheolaidd rhwng safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian a Champws y Bae.

Adnabod eich gwasanaethau a'ch arosfannau bws

90 – Gwasanaeth Crwn Campws y Bae

Gorsaf Fysus Abertawe > Stryd Christina Gorsaf Drenau’r Stryd Fawr (Seren) Llety true student Llety myfyrwyr Roost Campws y Bae

90A - Safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian i Gampws y Bae (o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig)

Stryd Christina Gorsaf Drenau’r Stryd Fawr (Seren) Llety myfyrwyr Roost Maes Parcio a Theithio Ffordd Fabian Campws y Bae

91 – Gwasanaeth Campws i Gampws

Campws Singleton Ysbyty Singleton Uplands, Abertawe > Stryd Christina Gorsaf Fysus Abertawe Sainsbury’s Campws y Bae

92 – Gwasanaeth Crwn Campws Singleton

Gorsaf Fysus Abertawe Sainsbury’s Llety myfyrwyr Roost Llety true student Gorsaf Drenau’r Stryd Fawr (Seren) Campws Singleton Neuadd y Ddinas

Gallwch weld yr amserlenni newydd ar wefan First Cymru yn fuan.

Yn ogystal â’r holl wasanaethau uchod, gallwch hefyd ddefnyddio pob bws First Cymru arall yn yr ardal sy’n gymwys, gan gynnwys  gwasanaeth 20 o Sgeti ac Uplands, Abertawe, i orsaf fysus Abertawe er mwyn cysylltu â gwasanaethau eraill.

Rydym yn croesawu sylwadau neu adborth o hyd drwy gyfarfodydd grŵp y defnyddwyr bysus bob dau fis neu drwy e-bostio travel@abertawe.ac.uk.