Wrth i ddiwedd y tymor agosáu, hoffem achub ar y cyfle hwn i ddymuno gwyliau llawen a diogel i chi a’ch teuluoedd, a rhoi i chi ychydig o wybodaeth bwysig am oriau agor gwasanaethau allweddol y Brifysgol a’r cymorth sydd ar gael yn ystod gwyliau’r Nadolig.
Gobeithiwn y gallwch chi fanteisio ar y cyfle hwn i orffwys, cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wrth eich bodd a dod yn ôl yn barod am dymor newydd ym mis Ionawr.
Oriau agor a gwybodaeth am wasanaethau
Arlwyo
Bydd y mannau arlwyo ar agor am lai o oriau dros gyfnod y Nadolig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe arlwyo am yr holl fanylion ac oriau agor.
Gwasanaethau Cwsmeriaid Ystadau
Bydd desgiau Gwasanaethau Cwsmeriaid Ystadau yn Nhŷ Fulton ar Gampws Singleton ac yn adeilad Nanhyfer ar Gampws y Bae ar agor hyd at ddydd Gwener 22 Rhagfyr ac ar y diwrnod hwnnw. Gallwch chi hefyd gysylltu â’r tîm dros y ffôn/e-bost hyd at 4pm ddydd Gwener 22 Rhagfyr. Bydd y derbynfeydd yn ailagor am 8.30am ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024.
Cyfleusterau Chwaraeon
Mae holl oriau agor Parc Chwaraeon Bae Abertawe, gan gynnwys Campfeydd Chwaraeon Abertawe, ar gael ar-lein yma.
Teithio
Ac eithrio rhif 90, ni fydd gwasanaethau UniBws yn gweithredu dros gyfnod y Nadolig. Bydd rhif 90 yn parhau i weithredu ond ar sail amserlen ddiwygiedig ar gyfer gwyliau’r Brifysgol sydd ar gael yma.
Gallwch weld rhagor o fanylion a lawrlwytho’r amserlenni ar wefan First Bus.
Cofiwch y bydd rhai newidiadau pwysig yn eich gwasanaethau bws o 7 Ionawr. Gallwch chi ddarllen am y rhain yn yr erthygl yn ein cylchlythyr diweddar.
Gwasanaethau Llyfrgell
Bydd llyfrgelloedd Campws y Bae a Champws Parc Singleton ar agor ddydd a nos, a bydd staff ar ddyletswydd ar y desgiau gwybodaeth ac eithrio ar 25 a 26 Rhagfyr a 1 Ionawr.
Edrychwch ar dudalennau gwe oriau agor y llyfrgelloedd i gael manylion llawn am ein holl lyfrgelloedd a’u gwasanaethau dros wyliau’r Nadolig.
MyUniHub
Bydd MyUniHub yn cau o ganol ddydd ar 22 Rhagfyr ac yn agor eto ar 2 Ionawr. Edrychwch ar dudalennau gwe MyUniHub i weld rhagor o wybodaeth a chwestiynau cyffredin.
Undeb y Myfyrwyr
Bydd eich UM yn cau ddydd Mercher yr 20fed o Ragfyr am 1yp a bydd yn dychwelyd i’w weithrediad arferol ddydd Llun 8fed Ionawr. Os oes eu hangen arnoch yn ystod y cyfnod hwn, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â chi drwy helo.swansea-union.co.uk a byddant yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallant.
Gweithgareddau yn Abertawe
Os byddwch chi’n aros yn Abertawe dros y Nadolig, cofiwch gynllunio ymlaen llaw, oherwydd bydd llawer o siopau ar agor am lai o oriau ac ar gau ar ddiwrnodau penodol yn ystod cyfnod yr ŵyl.
Mae Rhyngwladol@BywydCampws wedi llunio canllaw cyflym i weithgareddau a fydd yn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich gwyliau, ac mae croeso i’r holl fyfyrwyr gymryd rhan. Mae digon yn digwydd yn y ddinas hefyd, felly cofiwch gadw llygad ar dudalennau gwe Nadolig ym Mae Abertawe.
Cymorth Llesiant
Er y bydd gwasanaethau’r Brifysgol ar gael am oriau cyfyngedig dros y gwyliau, mae rhestr isod o adnoddau i’ch helpu os bydd gennych anawsterau yn ystod y cyfnod hwn.
- TogetherAll – Gwasanaeth iechyd meddwl digidol ar-lein sy’n lle diogel i siarad, i rannu a chefnogi eraill fel chi, wedi’i gymedroli gan ymarferwyr proffesiynol 24/7.
- Gwasanaeth Lles: Adnoddau Hunangymorth
- Gwasanaeth Lles: tudalennau cymorth mewn argyfwng a phoeni am eraill
- Mind – Yr elusen iechyd meddwl
- Y Samariaid – Mae bob amser rhywun ar gael i unrhyw un sydd angen siarad â rhywun. Mae’r Samariaid yn cynnig llinell gymorth 24 awr. Ffôn: 116 123 (y DU)
Cymorth mewn Argyfwng
Gobeithiwn yn fawr na fyddwch mewn sefyllfa frys dros gyfnod y gwyliau, fodd bynnag mae manylion am beth i’w wneud mewn argyfwng yma.
Diogelwch ar y Campws
Bydd ein Gwasanaethau Diogelwch yn parhau i weithredu ar y campws ddydd a nos yn ystod y cyfnod hwn. Ewch i’r tudalennau gwe i gael manylion cyswllt a gwybodaeth am Safezone.
Uchafbwyntiau 2023
Mae wedi bod yn dymor prysur. Mae 2023 wedi bod yn flwyddyn anhygoel ac i chi mae’r diolch am hyn! O ganlyniad uniongyrchol i’ch adborth a’ch mewnbwn, rydyn ni wedi gallu:
- Gwneud newidiadau pwysig i Amgylchiadau Esgusodol a’r Tiwtora Personol
- Lansio Harbwr, sy’n cynnwys mannau cymdeithasol hyblyg, mannau astudio anffurfiol, ardal gemau newydd sbon ac ardal awyr agored wedi’i hailddatblygu ar gyfer y misoedd cynhesach.
- Cyflwyno Ap FyAbertawe newydd sbon
- Cynyddu dosbarthiadau yn rhaglen Bod yn Actif, sy’n cynnig cyfleoedd i bawb gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol er mwyn gwella eu hiechyd a’u lles.
- Ychwanegu hyd yn oed rhagor o fathau o fwyd, a dewisiadau feganaidd a halal at fwydlenni ein mannau arlwyo.
- Gwella mannau astudio a mannau cymdeithasol myfyrwyr
Allen ni ddim wneud unrhyw ran o hyn heboch chi, felly diolch i chi am rannu eich barn â ni. Allwn ni ddim aros i weld beth sydd yn yr arfaeth am 2024!
Gobeithiwn y cewch chi wyliau Nadolig gwych.