Os ydych chi’n byw ar neu wrth ymyl yr A4118 Heol Gŵyr, Ffordd Sgeti, Uplands Crescent, Ffordd Walter, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn ymgynghoriad sydd ar y gweill sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Abertawe a Trafnidiaeth Cymru sy’n ceisio gwella a gwneud hi’n haws i bobl o bob oed a gallu gerdded a beicio.

Mae manylion llawn am y gwelliannau arfaethedig, gan gynnwys lluniadau, darluniau a ffurflen adborth ar gael ar wefan Cyngor Abertawe.

Bydd sesiwn galw heibio, lle bydd y cyngor a Thrafnidiaeth Cymru wrth law i esbonio’r cynnig ac ateb unrhyw un o’ch cwestiynau, yn cael ei gynnal ar:

Dydd Mawrth 30 Ionawr, 1pm i 5:54pm, Neuadd Canolfan y Plwyf Sant Paul, Heol De La Beche, SA2 9AR.