Gallwch gofrestru gyda meddygfa leol am ddim, a fydd yn rhoi mynediad i chi at feddyg pan fyddwch chi’n teimlo’n anhwylus. Mae hyn yn golygu os ydych chi’n sâl neu’n profi unrhyw broblemau iechyd meddwl, corfforol neu rywiol tra rydych chi’n fyfyriwr, byddwch chi’n gallu cyrchu gwasanaethau gofal iechyd lleol.

Mae llawer o opsiynau pan ddaw i feddygfeydd i fyfyrwyr yn Abertawe, a bydd  rhai’n agos i’ch llety yn ystod y tymor. Rydym ni’n gweithio’n agos gyda Chanolfan Iechyd y Brifysgol, Canolfan Feddygol SA1 a Chanolfan Iechyd Harbourside. Ni fydd cofrestru gyda meddygfa yn y brifysgol yn eich atal rhag cael gofal iechyd pan fyddwch chi’n dychwelyd adref ar gyfer y gwyliau.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan Iechyd Myfyrwyr.