Efallai y byddi di’n cael emosiynau neu brofiadau negyddol wrth bontio i fywyd ym Mhrifysgol Abertawe neu yn ystod dy amser yn y brifysgol. Mae hyn yn hollol normal. Rydyn ni’n deall y gall bywyd yn y brifysgol fod yn gyffrous ac yn llethol, a dyna pam rydyn ni am roi strategaethau i ti a fydd yn ddefnyddiol yn ystod dy amser yn Abertawe.
Mae Hapus yn gwrs ar-lein sy’n dy baratoi am yr heriau meddyliol, emosiynol ac ymarferol yn y brifysgol.
Bydd yn rhoi i ti’r wybodaeth a’r adnoddau i allu mynd i’r afael â materion fel:
- Gorbryder cymdeithasol
- Hwyliau isel
- Gohirio
- Rheoli dy arian
- Ysgytwad diwylliannol
- Rheoli straen ac ansicrwydd,
- Meithrin gwytnwch
- Rheoli teimladau o ynysu ac unigrwydd
- Arweiniad ynghylch ffordd iach o fyw
Ynghyd â gwybodaeth am yr holl wasanaethau cymorth sydd ar gael i ti yn ystod dy amser ym Mhrifysgol Abertawe.