Rydyn ni’n lansio Arolwg Mawr Abertawe mewn steil yng Ngŵyl Adborth MyUni yr wythnos hon.
Dewch draw i Taliesin rhwng 10am a 4pm heddiw i gwblhau’r arolwg, mwynhau bwyd am ddim, cerddoriaeth fyw, crefftau, gemau a llawer mwy. Bydd hyd yn oed Molly’r ci yn galw heibio i fwynhau’r hwyl!
Os byddwch chi ar Gampws y Bae, galwch heibio i’r digwyddiad yfory a fydd yn cael ei gynnal yn Y Guddfan rhwng 10am a 4pm. Peidiwch â cholli’r cyfle hwn!