Wyddech chi fod Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe’n gweithio mewn partneriaeth â Chynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd?

Mae’r cynllun yn caniatáu i unrhyw aelod presennol o wasanaethau llyfrgell cyhoeddus Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Benfro fenthyca adnoddau am ddim yn llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe a llyfrgelloedd addysg bellach, addysg uwch a byrddau iechyd eraill.

Pam mae hi'n bwysig annog pobl i ddefnyddio ein llyfrgelloedd am ddim?

  • Lleihau cost ariannol prynu eich llyfrau a’ch deunyddiau eich hun.
  • Cyfrannu at gynaliadwyedd amgylcheddol drwy fenthyca yn hytrach na phrynu.
  • Gwella eich sgiliau ymchwil drwy ddarganfod a defnyddio adnoddau, a hynny ar-lein ac yn ein llyfrgelloedd diriaethol.
  • Darganfod darllen er pleser y tu allan i ddibenion addysg.

Mae’r cynllun ar gael i fyfyrwyr addysg uwch a’r cyhoedd ehangach, gan gynnwys eich teulu a’ch ffrindiau!

Am ragor o wybodaeth neu i lawrlwytho eich pasbort am ddim, ewch i dudalen we Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd.