Mae’n bleser gan Brifysgol Abertawe eich gwahodd i fynychu ‘Datblygwyr y Dyfodol’, digwyddiad gyda chyn-fyfyrwraig Prifysgol Abertawe Anne Boden, sefydlwr Starling Bank; awdur llyfr newydd, Female Founder’s Playbook; a Chadeirydd y tasglu mentergarwch twf uchel a arweinir gan fenywod, un o fentrau Swyddfa’r Cabinet.
Mae Anne yn dod o Abertawe, daeth i Brifysgol Abertawe drwy’r system glirio pan na lwyddodd i gyrraedd y graddau ar gyfer ei dewis cyntaf o Brifysgol, ac astudiodd Cyfrifiadureg a Chemeg yma, cyn dod yn filiwnydd hunan-wneud pan welodd fwlch yn y farchnad a sefydlu Starling Bank.
Ond nid oedd y cyfan mor hawdd â hynny… dewch i ddarganfod mwy am daith Anne a dysgu am yr heriau a wynebodd, i helpu eich syniadau eich hun i ddod yn reality.
Mae croeso i bob myfyriwr. Archebwch eich tocyn am ddim yma erbyn 26 Chwefror (bydd angen tocyn ar gyfer pob person sy’n mynychu):
Datblygwyr y Dyfodol (ticketsolve.com) Y côd hyrwyddo i ddewis a chadarnhau seddi yw future.
Os hoffech archebu tocynnau ar gyfer grŵp mawr cysylltwch â sian.a.jones@swansea.ac.uk.
- Dyddiad: 4 Mawrth
- Amser: 10.30am – 12pm
- Lleoliad: Theatr Taliesin, Prifysgol Abertawe
- Cost: Am ddim
Edrychwn ymlaen i’ch gweld chi yna!