Mae Ffair Mynd yn Fyd-eang Prifysgol Abertawe yn dychwelyd i Gampws Singleton mis Chwefror hwn. Ymunwch â’r tîm Mynd yn Fyd-eang i ganfod mwy o wybodaeth am yr ystod eang o gyfleoedd rhaglenni haf rhyngwladol cyffrous sydd ar gael.

Meddyliwch am dreulio mis yn gwirfoddoli yn Fiji, Sri Lanka neu Nepal, yn astudio yn Sbaen, yn dysgu am iaith a diwylliant yn Hong Kong, neu yn cwblhau interniaeth yn Fietnam …. mae rhywbeth i bawb!

Bydd darparwyr allanol yn ymuno â ni, yn ogystal a cyfranogwyr y gorffennol a fydd ar gael i rannu eu profiadau a’ch helpu i ddechrau ar eich taith fyd-eang.  Bydd y tîm Ewch yn Fyd-eang hefyd wrth law i siarad â chi am y cyllid hael sydd ar gael ar gyfer rhaglenni haf rhyngwladol (nid yw ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn olaf).

Galwch heibio Stiwdio Taliesin (llawr gwaelod) ar Gampws Parc Singleton rhwng 3 a 5 y prynhawn ar ddydd Mawrth, 20fed o Chwefror.