Mae Ŵyl y Darlun Ehangach yn ddathliad o’r gwahanol grefyddau a diwylliannau sy’n bodoli yma yng nghymuned Abertawe! Mae’r ŵyl wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda myfyrwyr ac aelodau’r gymuned fel ei gilydd wrth iddynt arddangos eu diwylliant trwy amrywiol ffyrdd – boed hynny’n fwyd, dawns, cerddoriaeth, neu fwy!

 

Cynhelir yr ŵyl ym mis Mawrth bob blwyddyn, gydag arddangosfa ar naill campws Prifysgol Abertawe. Eleni cynhelir y dathliadau ar ddydd Mawrth y 5ed o Fawrth ar Gampws y Bae (Y Twyni) ac ar ddydd Iau, Mawrth 7fed ar Gampws Singleton (Taliesin).

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn yr ŵyl, cysylltwch â ni neu os ydych chi eisiau dod draw i weld beth yw pwrpas hynny, dewch draw!

Rydym yn dal i chwilio am gynrychiolwyr i gynnal stondinau yn Ŵyl y Darlun Ehangach. Os ydych chi’n unigolyn, yn grŵp, neu’n gymdeithas ac eisiau cynrychioli unrhyw agwedd neu wlad yn y rhanbarthau canlynol, cysylltwch â ni drwy e-bost yn: equalities.campuslife@swansea.ac.uk . Y rhanbarthau rydym yn chwilio am gynrychiolaeth ynddynt yw: Gogledd America, De America, Ewrop, a Dwyrain Asia. 

Mae gan Brifysgol Abertawe a’r ardal gyfagos gymuned hynod fywiog, ac rydym am arddangos hyn i’r eithaf felly peidiwch ag oedi cyn cymryd rhan!