Os wyt ti’n preswylio a/neu’n astudio ar Gampws y Bae, a wnei di ystyried cymryd rhan yn ein Cymunedau Ymholi.

Sut brofiad yw astudio/byw ar Gampws y Bae? Beth fyddai’n gwneud i ti deimlo’n fwy cartrefol a’th fod ti wedi cael dy gynnwys yn fwy? Rhanna dy brofiad â ni a byddi di’n derbyn taleb gwerth £10 am gymryd rhan.

Ni yw Applied Inspiration ac rydyn ni’n gweithio gyda Phrifysgol Abertawe i gynnal ymchwil i brofiadau myfyrwyr ar Gampws y Bae. Rydyn ni am ganfod sut gall y Brifysgol wella profiadau myfyrwyr ar Gampws y Bae ac archwilio sut gallai myfyrwyr deimlo’n fwy cartrefol ar y campws hwn.

Beth yw Cymuned Ymholi?

Mae Cymuned Ymholi’n weithdy cydweithredol lle rhoddir awgrym i ysgogi’r cyfranogwyr i feddwl – e.e. llun, darn o destun, tystiolaeth fer, etc – ac yna gofynnir iddyn nhw fyfyrio ar yr awgrym hwn yn unigol ac mewn parau, cyn gweithio mewn grwpiau mwy i lunio cwestiwn. Er enghraifft, gallai hyn fod yn gwestiwn am wella ymdeimlad o gymuned ar Gampws y Bae neu am sut i wneud gweithgareddau allgyrsiol yn gynhwysol. Bydd hyn yn arwain y grŵp i ystyried yr hyn y gellir ei wneud nesaf i ymdrin â’r heriau ar Gampws y Bae.

Gweithgarwch dechreuol ⇒ Ysgogiad i feddwl ⇒ Myfyrdod (unigol ac mewn parau) ⇒ Llunio cwestiwn ⇒ Ymholiad ⇒ Beth nesaf?

Bydd pob gweithdy’n para am hyd at 90 munud a bydd hyd at 10 myfyriwr ym mhob grŵp.

Pryd bydd y Cymunedau Ymholi'n cael eu cynnal?

Ar y safle

  • Dydd Mawrth 27 Chwefror ar Gampws y Bae:
  • Mawrth 27ain Chwefror (10-11.30am)
  • Maw 27ain Chwef (12-1.30pm)
  • Maw 27ain Chwef (2.30-4.00pm)

Ar-lein

  • Dydd Gwener 1 Mawrth, 11.30am tan 1.00pm
  • Dydd Gwener 1 Mawrth, 2pm tan 3.30pm

Gelli di ddewis rhwng cymryd rhan ar y safle neu ar-lein, ond gelli di gyfranogi mewn un sesiwn yn unig.

Beth sydd ei angen arna i i gymryd rhan?

Gofynnir i ti roi dy enw, dy rif adnabod myfyriwr, a’th e-bost cyswllt, ac i nodi dyddiad ac amser y gweithdy a ffefrir gennyt ti.

Sut galla i gael rhagor o wybodaeth?