Gan fod yr Ŵyl Darlun Ehangach yn ymwneud â dathlu’r gwahanol grefyddau a diwylliannau sy’n bodoli yma yng nghymuned Abertawe, byddem wrth ein bodd yn gweld lluniau ohonoch chi, eich teuluoedd a beth mae cysyniadau cymuned/ffydd yn ei olygu i chi.
Mae croeso i bob ffotograffydd addawol anfon lluniau (y maent wedi’u cymryd) sy’n ymwneud â:
- Teulu
- Ffydd
- Diwylliant
- Ei mamwlad
Gall ymgeiswyr gyflwyno un ffotograff. Rhaid i ffotograffau fod mor eglur â phosibl a gellir eu cyflwyno erbyn canol-dydd ddydd Llun 4 Mawrth yn y ffyrdd canlynol:
Ymgeisio trwy Facebook neu Instagram
- Llwytho’r llun
- Tagio @Bywydcampws
- Ychwanegu hashnod #BiggerPictureFestival
- Ychwanegwch eich enw (os nad yw’n glir o’ch cyfrif)
Ymgeisio drwy e-bost
- Danfonwch eich ymgeisiad i gosocial@swansea.ac.uk
- Defnyddiwch pennawd pwnc Gŵyl y Darlun Ehangach: Cystadleuaeth lluniau
- Cynnwys eich enw (a’ch ysgol os oes angen)
Beirniadu a gwobrau
Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan banel sy’n cynnwys trefnwyr Gŵyl Darlun Ehangach.
Bydd y lluniau a gyflwynir yn cael eu hargraffu ac yn cael eu harddangos yng Ngŵyl y Darlun Ehangach. Rhowch wybod i ni os nad ydych am i’ch llun gael ei arddangos.