Mae’n bleser gennym lansio Arddangosiad Pontio Diwylliannau ym Mhrifysgol Abertawe. Cynhelir yr arddangosiad yn Atriwm yr Ysgol Reolaeth, tan 8 Mawrth. Mae’n ymdrech gydweithredol sy’n cynnwys myfyrwyr, Archifau Richard Burton, a’r Llyfrgell er mwyn tynnu sylw at y profiadau a’r diwylliannau amrywiol a gynrychiolir ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae’r arddangosiad amlgyfrwng, wedi’i guradu’n ystyrlon gan ein myfyrwyr, yn cyfleu pŵer addysg wrth gydnabod a dathlu ein hanes cyfoethog. Drwy amrywiaeth o gyfryngau gafaelgar megis straeon, barddoniaeth, ffilmiau, ffabrigau, mapiau a mwy.