Rydym yn falch iawn o lansio’r Murlun Hanes Pobl Dduon yn swyddogol ar wal Tŷ’r Undeb — prosiect sydd wedi deillio o weledigaeth i ddathlu ffigyrau Pobl Dduon Cymru. Dewis ystyrlon ein myfyrwyr oedd Vaughan Gething a Betty Campbell, wedi’u dethol i symboleiddio myfyrdodau ar ein gorffennol a rennir, ein presennol, a’r gwerthoedd parhaus y mae’r unigolion rhagorol hyn yn eu cynrychioli.
Mae effaith y murlun hwn yn mynd y tu hwnt i’r gweledol; mae’n dyst i bŵer cydweithio, meithrin undod, gwydnwch, a dealltwriaeth ddyfnach o hanesion amrywiol. Arweiniwyd y prosiect hwn gan Dr Lella Nouri ac fe’i cefnogwyd gan yr Academi.
Os ydych yn ymweld neu’n astudio ar Gampws Singleton, peidiwch ag anghofio edrych allan am y murlun anhygoel hwn!