Mae Dydd Gŵyl Dewi yn ddathliad cenedlaethol o ddiwylliant Cymreig ac yn ddiwrnod i anrhydeddu Nawddsant Cymru! Rydym yn falch o fod yn brifysgol Gymreig a byddwn yn chwifio’r faner yn uchel ac yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau gwych i chi eu mwynhau.
Yn ogystal â goleuo Faraday a’r Neuadd Fawr yn lliwiau’r ddraig goch drwy’r wythnos i ddathlu, gallwch hefyd fwynhau stondinau bwyd dros dro ar y campysau, bwyd traddodiadol Cymreig yn ein mannau arlwyo, a 10% oddi ar unrhyw nwyddau Cymreig yn Fulton Outfitters ar 1 Mawrth.
Cymerwch olwg isod i ddarganfod beth allwch chi gymryd rhan ynddo:
- Ymunwch â Ffydd@BywydCampws wrth i ni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ddydd Gwener 1 Mawrth yn Yr Hafan ar Gampws y Bae.
I ddilyn bydd gweithgareddau crefft galw heibio a gemau i’ch helpu dysgu mwy am Dewi Sant a myfyrio am ei bywyd a’i gwaith, bydd hyn yn cymryd lle tan 2yp. Darperir lluniaeth am ddim trwy gydol y digwyddiad, cliciwch yma i arbed eich tocynnau.
- Os hoffech fynd i dref Abertawe, mae BywydCampws wedi trefnu taith i Farchnad Abertawe am Ddydd Gŵyl Dewi. Oeddech chi’n gwybod ei fod yn ddiweddar wedi’i henwi’n un o’r marchnadoedd dan do orau’r DU?
Cewch y cyfle i ymweld â nifer o stondinau a phrynu bwyd Cymreig go iawn! Cewch hefyd y cyfle i siarad ag amryw o stondinwyr am eu bywyd yn y farchnad! Trwy gydol y digwyddiad, fydden hefyd yn trafod mwy am y chwedlau a hanes sy’n amgylchu Dewi Sant, felly fydd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am hanes Cymreig!
- Eisteddfod Ryng-golegol 1af-2il o Fawrth
Mae disgwyl i fwy na 500 o fyfyrwyr o Brifysgolion ar draws Cymru i deithio i Abertawe wrth i’r Eisteddfod Ryng-golegol ail-ymweld a Phrifysgol Abertawe. Bydd cystadlaethau chwaraeon, gan gynnwys rygbi saith bob ochr, pêl droed a phêl rhwyd yn cymryd lle ar y Dydd Gwener, 1af o Fawrth ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe (Lôn Sgeti) a fydd yna ddydd o gystadlu yn cychwyn yn Neuadd Fawr y Brifysgol ar Gampws Y Bae am 10yp ar Ddydd Sadwrn yr 2il o Fawrth.
Bydd y dathliadau yn gorffen gyda’r Gig Eisteddfod Ryng-gol 2024, noswaith o ddathlu talent Gerddorol Gymreig, yn cynnwys rhai o enwau mwyaf yr olygfa roc Cymreig, yn enwol Mellt, Gwilym a FRMAND. Gwnewch yn siŵr i arbed eich tocyn am y noswaith anhygoel hon, £10 ymlaen llaw a £15 ar y drws (yn ddibynnol ar argaeledd) yng Nghlwb Nos y Cove ar Gampws Singleton.