Ymuna ag Academi Cyflogadwyedd Abertawe am ein digwyddiad Panel Cyn-fyfyrwyr Rhyngwladol ddydd Iau 14 Mawrth o 9:45 tan 14:30 yn Rhodfa Creu Taliesin!
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sydd am feithrin dealltwriaeth amhrisiadwy o deithiau proffesiynol graddedigion rhyngwladol diweddar sydd wedi cael gyrfaoedd llwyddiannus yn y DU. Bydd cyn-fyfyrwyr penigamp ein panel yn rhannu eu profiadau ac yn cynnig cyngor amhrisiadwy i fyfyrwyr presennol.
Cyn-fyfyrwyr sy’n siarad:
Chido Ranganayi – Ymgynghorydd Strategaeth, Economeg a Pholisi yn RSM UK
Natasha Mawera – Dadansoddwr Planetrics yn McKinsey & Company
Lanvell Blake – Swyddog Cyfathrebu yn Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU
Byddi di hefyd yn cael y cyfle i wella dy sgiliau proffesiynol drwy weithdai difyr a gynhelir gan ein hymgynghorwyr gyrfaoedd ar greu CVs a llythyrau eglurhaol effeithiol, meistroli technegau rhwydweithio ac optimeiddio proffiliau LinkedIn i’th helpu ar dy daith.
Darperir lluniaeth a chinio a gweler amserlen y digwyddiad isod. Cofrestra drwy’r ddolen i gadw dy le – https://forms.office.com/e/NWAyUqmQGa
Amserlen ar gyfer y diwrnod:
09:45 Cyrraedd
10:00 – 10:15 Croeso
10:15 – 11:00 Gweithdy 1 – CV, Llythyrau Eglurhaol a Cheisiadau
11:00 – 12:00 Digwyddiad Panel
12:00 – 12:45 Gweithdy 2 – Rhwydweithio, LinkedIn a Phroffesiynoldeb
12:45 – 13:15 Student Circus ac Adnoddau
13:15 – 14:30 Cinio, Rhwydweithio a Chau