Mae amser o hyd i ymuno â Thîm Abertawe a chofrestru am Hanner Marathon Abertawe 2024, gan fanteisio ar ffi gofrestru is ar gyfer myfyrwyr!

 Y llynedd, cymerodd dros 100 o fyfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr ran yn yr hanner marathon er budd elusen y Brifysgol, ‘Camau Breision dros Iechyd Meddwl’ gan godi dros £20,000 i gefnogi gwella iechyd meddwl.

Cynhelir y ras eleni ddydd Sul 9 Mehefin 2024 achttps://vimeo.com/886472306 mae’n argoeli bod yn fwy ac yn well nag erioed wrth i ni ddathlu pen-blwydd y ras yn 10 oed – ac ail flwyddyn y Brifysgol fel noddwr swyddogol.

Mae’n bleser mawr gennym ddatgelu y bydd un o sêr rygbi Cymru, Ryan Jones, yn dychwelyd i fod yn un o lysgenhadon Tîm Abertawe. Felly, wrth gymryd rhan, byddwch yn rhedeg ochr yn ochr â Ryan!

Os hoffech chi fynd i’r afael â her newydd, codi arian at achos da, neu os ydych chi’n dwlu ar redeg, byddem wrth ein boddau pe gallech ymuno â ni.

Ddim yn mynd i fod yn Abertawe? Dim problem! ! Eleni, byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan yn Hanner Marathon Rhithwir Abertawe sy’n rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn ffordd ac mewn lleoliad sy’n gyfleus i chi. Er bod y disgownt ar y ffi gofrestru yn gyfyngedig i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y ras yn Abertawe, gallwch chi fod yn rhan o Dîm Abertawe o hyd a ‘Chymryd Camau Breision dros Iechyd Meddwl’.

Os nad yw rhedeg at eich bryd, mae digon o gyfleoedd eraill i wneud gwahaniaeth, o noddi eich ffrindiau, eich cyd-letywyr a’ch cyd-fyfyrwyr, i wirfoddoli ar y dydd, a dangos eich cefnogaeth yn y dorf – byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth yn agosach at ddiwrnod y ras am yr holl ffyrdd eraill y gallwch chi gymryd rhan.

Yn barod i ymuno â Thîm Abertawe?

Sut i gofrestru: A wnewch chi gofrestru eich manylion, a byddwch yn cael e-bost â chôd disgownt i’w fewnbynnu pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y ras.

Y cymorth y byddwch yn ei dderbyn: Byddwch yn cael y newyddion diweddaraf drwy e-bost gydag awgrymiadau i’ch ysgogi a’ch helpu i godi arian, straeon am redwyr a mynediad at ddigwyddiadau a disgowntiau arbennig.

Am yr Ymgyrch: Rydym yn cymryd camau breision dros les gwell, ac yn credu na ddylai neb sy’n cael trafferth gyda’i iechyd meddwl ddioddef ar ei ben ei hun. Ymunwch â ni nawr i gefnogi iechyd meddwl gwell i bawb, o atgyfeirio myfyrwyr sy’n teimlo dan straen at raglenni ymarfer corff, atal hunanladdiad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a gweithlu mwy gwydn yn y GIG. Gallwch chi wylio fideo ein hymgyrch am ragor o wybodaeth.

Hoffech chi glywed mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl? Cliciwch ar y ddolen i ddarllen beth ysgogodd fyfyriwr MA, Angelica, i redeg y llynedd.

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i Dîm Abertawe!