Cyfle i gael eich eitemau wedi’u hatgyweirio am ddim a chefnogi’r economi gylchol!

Dewch i’r Caffi Atgyweirio nos Mercher 20fed Mawrth rhwng 5pm a 7pm yn yr Ystafell Gemau, Llawr Cyntaf, Tŷ Fulton (nesaf i Harbwr)

Bydd tîm medrus o wirfoddolwyr o Ganolfan yr Amgylchedd wrth law i adfywio’ch eitemau annwyl. Gallwch ddod â’ch eitemau sydd wedi torri i gael eu hatgyweirio gan gynnwys:

· Dillad

· Cyfrifiaduron: caledwedd/meddalwedd

· Offer trydanol y cartref e.e. tostiwr, tegell, sychwyr gwallt (Dim nwyddau gwyn)

· Cynnal a chadw cyffredinol i nwyddau ac addurniadau’r cartref e.e. gludo, trwsio, gwaith coed etc

· Gemwaith

· Gwiriadau diogelwch beiciau a chynnal a chadw sylfaenol

Mae’r Caffi ar agor i’r holl fyfyrwyr a staff a bydd y gwirfoddolwyr o Ganolfan yr Amgylchedd yn gwneud eu gorau i drwsio eich eitem am ddim!

Gadewch i ni atgyweirio ac ailddefnyddio gyda’n gilydd, a lleihau ein gwastraff yn gyffredinol drwy roi bywyd newydd i’n heitemau annwyl. Darganfyddwch fwy a chofrestrwch ar Eventbrite.

Os oes gennych gwestiynau am y Caffi Atgyweirio, cysylltwch â ni yn sustainability@abertawe.ac.uk a chofiwch ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol a’n tagio ni yn eich lluniau Caffi Atgyweirio!