Fyfyrwyr israddedig y flwyddyn olaf – bydd MSc Economeg yn gwella eich rhagolygon gyrfa!

Gall gradd ôl-raddedig roi mantais i chi mewn marchnad swyddi gystadleuol a chynyddu eich cyfleoedd gyrfa. Felly beth am ymuno â ni yn ein digwyddiad gwybodaeth i ddarganfod mwy am y rhaglenni Economeg blaengar ym Mhrifysgol Abertawe

Yn ystod y digwyddiad bydd cyfle i gwrdd â’r tîm a’n cynrychiolydd myfyrwyr a dysgu rhagor am astudio gyda ni!