Rhaid i bob elusen gael ymddiriedolwyr. Maent yn goruchwylio gwaith yr elusen a byddant yn gyfrifol yn gyfreithiol amdani yn y pen draw. Mae’r gwaith ymarferol a wnaed ganddynt yn amrywio ac yn aml, mae’n dibynnu ar faint yr elusen a nifer y staff mae’n eu cyflogi.
Mae bod yn ymddiriedolwyr elusen yn gyfle gwych. Nid oes llawer o bobl yn cael y cyfle i’w wneud a phrin yw’r bobl sy’n gallu ei wneud wrth astudio yn y Brifysgol. Gallwch leisio barn mewn ffordd real ac ystyrlon ar gyfeiriad Gwirfoddoli Myfyrwyr Discovery Abertawe; byddwch yn gwirfoddoli ochr yn ochr â staff ymroddedig i wneud ein Helusen wych yn llwyddiant; gallwch fagu sgiliau a phrofiadau gwych a fydd yn gwella eich CV a’ch ceisiadau ar gyfer swyddi yn y dyfodol; byddwch yn derbyn hyfforddiant rhagorol i’ch helpu yn eich rôl; byddwch yn cael profiad o realiti cynnal elusen a byddwch yn rhan o wneud gwahaniaeth sylweddol i gymuned Abertawe.
Mae bod yn ymddiriedolwr myfyriwr yn gofyn am eich amser a’ch ymrwymiad. Gall fod yn heriol ac efallai y bydd yn rhaid i chi wneud penderfyniadau anodd. Bydd staff ac ymddiriedolwyr nad ydynt yn fyfyrwyr yno i’ch cefnogi ond disgwylir i’r holl ymddiriedolwyr gymryd rhan a rhannu’r cyfrifoldebau. Mae gan Discovery SVS ymddiriedolwyr nad ydynt yn fyfyrwyr hefyd, ac mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn staff y Brifysgol ac mae un yn gynrychiolwr cymunedol. Ar y cyd â’r staff, maent yn cefnogi ymddiriedolwyr sy’n fyfyrwyr ar bob cam o’r ffordd.
Mae enwebiadau’n agor ar 8 Ebrill Bydd enwebiadau’n cau ar 19 Ebrill 10yb
Lawrlwythwch y pecyn cais yma.