Dewch i ddysgu am raglenni TAR cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe yn ein Noson Agored ar y campws ar 1 Mai, 6-7.30pm.
Cewch gyfle i glywed am:
- ein rhaglenni TAR Cynradd ac Uwchradd
- cyllid
- ein darpariaeth Gymraeg
- cyfleoedd a chefnogaeth os ydych yn ansicr neu’n ddi-hyder am ddilyn y llwybr cyfrwng Cymraeg
- ein hysgolion partner a lleoliadau addysgu
- cyfleoedd gwaith
Bydd hefyd gyfle i sgwrsio gyda’n tîm Addysg Gychwynnol Athrawon cyfeillgar a gweld ein cyfleusterau arloesol gwych. Darperir te, coffi a chacen am ddim i bawb!
Cynhelir y digwyddiad yn Ystafell 038, Y Rhandy Addysg, Adeilad Keir Hardie, Campws Singleton, Abertawe SA2 8PP. Dewch yn llu!