Yma, yn Rhyngwladol@BywydCampws, mae gennym ni syrpreis i chi ym mis Mai!
Mae ein gwibdeithiau a’n digwyddiadau yn hanner pris ar gyfer mis Mai fel rhan o’n hymgyrch Gostyngiad Mis Mai! Gweler isod y digwyddiadau sydd ar ddod:
- Dydd Iau 2 Mai Digwyddiad Cymdeithasol GO! Cwrdd a chymdeithasu – Big Pit a’r Fenni AM DDIM
- Dydd Sadwrn 4 Mai Digwyddiad Cymdeithasol GO! Taith: Big Pit a’r Fenni – Fel arfer yn £10, nawr £5
- Dydd Mawrth 7 Mai GO! Bwyta: Pinatas – Fel arfer yn £10, nawr £5
- Dydd Gwener 10 Mai GO! Ffilm: Shaun of the Dead AM DDIM
- Dydd Llun 13 Mai GO! Cyfle i gymdeithasu: Taith o’r Ganolfan Eifftaidd AM DDIM
- Dydd Llun 13 Mai GO! Cyfle i gymdeithasu: Brecwast Arholiadau AM DDIM
- Dydd Mercher 15 Mai GO! Cyfle i gymdeithasu: Bowlio deg Fel arfer yn £6, nawr £3
- Dydd Llun 20 Mai GO! Cyfle i gymdeithasu: Brecwast Arholiadau AM DDIM
- Dydd Mercher 22 Mai GO! Cyfle i gymdeithasu: Coffi a Sgwrs AM DDIM
- Dydd Iau 23 Mai GO! Cyfle i gymdeithasu: Hanes Myfyrwyr Rhyngwladol AM DDIM
- Dydd Gwener 24 Mai GO! Ffilm: Kung Fu Panda AM DDIM
- Dydd Mercher 29 Mai GO! Cyfle i gymdeithasu: Coffi a Sgwrs AM DDIM
- Dydd Iau 30 Mai GO! Cyfle i gymdeithasu: Caffi Gemau Bwrdd Fel arfer yn £3, nawr £1.50
Hefyd, drwy gydol mis Mai rydym yn cynnig pot nwdls/reis/pasta am ddim bob dydd (ac eithrio 1 Mai, 8 Mai a 29 Mai am fod y dyddiadau hyn yn wyliau banc) – ddydd Llun i ddydd Gwener ar Gampws y Bae yn Yr Hafan a dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau ar Gampws Parc Singleton yn Nerbynfa BywydCampws. Cynigir y rhain ar sail y cyntaf i’r felin rhwng 12pm ac 1pm. GO! Cinio: Gostyngiadau Mis Mai!