I baratoi ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25, mae’r tîm Amserlennu Academaidd wrthi’n adeiladu dy amserlenni addysgu newydd ar y cyd â’th Gyfadran, dy ddarlithwyr a’th diwtoriaid.
Yn ystod y broses hon, efallai y byddi di’n gallu gweld fersiwn ddrafft o’th amserlen addysgu ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, drwy dy lwybrau arferol.
Sylwer, fersiwn ddrafft yn unig yw hon, nid yw wedi’i chwblhau a gall newid. Rydym yn gofyn yn garedig iti beidio â gwneud cynlluniau o amgylch yr amserlen ddrafft hon.
Bydd fersiwn fwy ffurfiol o’th amserlen ar gael yn Awst a byddwn yn rhannu hyn â thi pan fo’n briodol.
Diolch i ti am dy ddealltwriaeth a’th gydweithrediad.