Eich lles yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym am eich cefnogi trwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe.
Rydym yn deall y gall bywyd prifysgol fod yn heriol weithiau, os ydych yn teimlo yr hoffech gael rhywfaint o gymorth ychwanegol tra yn Abertawe, boed yn ymwneud â phryderon personol, academaidd neu emosiynol, mae yna lawer o wasanaethau a mentrau gwahanol ar gael i chi.
Dyma rai o’r adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael i chi:
Cymorth Emosiynol
Mae ein Gwasanaeth Lles yn darparu cymorth emosiynol i bob myfyriwr. Mae’r tîm yn cynnig amrywiaeth o ganllawiau, cyngor ac ymyriadau therapiwtig ar gyfer unigolion a grwpiau, gan gynnwys addasiadau academaidd, cwnsela, a mentora un-i-un. Os ydych yn teimlo y gall fod angen cefnogaeth ychwanegol arnoch chi, llenwch ein Ffurflen Cais Am Gymorth.
Weithiau mae’n dda i siarad, does dim rhaid bod problem neu fater penodol bob amser. Mae’r Gwasanaeth Gwrando ar gael i fyfyrwyr sydd angen clust gyfeillgar ac mae’n gwbl gyfrinachol. E-bostiwch listeningservice.campuslife@swansea.ac.uk i drefnu apwyntiad ffôn, fideo neu wyneb yn wyneb.
Mae’r brifysgol yn cynnal grŵp ar gyfer myfyrwyr a allai fod wedi profi unrhyw fath o brofedigaeth. Mae’r grŵp cefnogi Profedigaeth yn cwrdd ar ddydd Mercher 3-4yp yn y Goleudy. Os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch faith.campuslife@swansea.ac.uk.
Llesiant@BywydCampws
Mae Llesiant@BywydCampws yn dîm sy’n rhoi cyngor, cymorth a chyfarwyddyd ymarferol i fyfyrwyr, yn ogystal â’u cyfeirio i wasanaethau cymorth arbenigol. Cymerwch olwg ar eu tudalennau gwe sy’n cwmpasu ystod eang o faterion sy’n ymwneud â lles a allai fod yn effeithio arnoch chi.
Adnoddau Hunangymorth
Mae Togetherall yn wasanaeth iechyd meddwl digidol am ddim sydd ar gael i bob myfyriwr. Gan ddefnyddio dy gyfeiriad e-bost yn y brifysgol, gelli di gael cymorth ddydd a nos yn ddienw gan glinigwyr hyfforddedig ar-lein, yn ogystal ag amrywiaeth o adnoddau defnyddiol. Mae’n lle diogel i drafod dy bryderon, sgwrsio, mynegi dy feddyliau’n greadigol a dysgu sut i reoli dy iechyd meddwl.
Rydyn ni’n annog pob myfyriwr i gymryd cip ar yr adnoddau hunangymorth sy’n cynnig cyngor a chyfarwyddyd ar amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â lles.
Peidiwch ag oedi cyn estyn allan at ein staff cyfeillgar yn ein gwasanaethau cymorth os oes angen unrhyw cymorth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Gofalwch amdanoch eich hun a chofiwch ein bod ni yma i chi.