Mae eich llais yn bwysig iawn, ac rydym i gyd yn glustiau o ran eich adborth a sylwadau ar deithio yma ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni a bydd yn sicrhau bod ein cynlluniau teithio yn cael eu llywio gan eich anghenion.

 I gael siawns o ennill taleb werth £350 gan Cycle Solutions* neu tocyn bws blynyddol First Cymru rhowch eich cyfeiriad e-bost prifysgol pan ofynnir i chi ar ddiwedd yr arolwg.

 *gellir defnyddio’r daleb tuag at brynu beic newydd, ategolion beicio, neu ddillad o frandiau fel Giant, Cannondale a Castrelli

 Mae’r sylwadau a gawsom o arolygon myfyrwyr blaenorol wedi arwain at nifer o fentrau teithio a gwelliannau pwysig, gan gynnwys:

  • Gwelliannau wedi’u teilwra i wasanaethau bysiau yn seiliedig ar adborth myfyrwyr a staff gan gynnwys gwelliannau i 91 o wasanaethau a llwybrau gwasanaeth gyda’r nos.
  • Gwasanaeth Parcio a Theithio am ddim yn ystod y tymor tan 7 Mehefin.
  • Cyflwyno cofrestr beiciau a digwyddiadau cofrestru beiciau ar y campws i atal lladradau beiciau.
  • Goleuadau am ddim, cloeon a nwyddau eraill i feicwyr.
  • Sesiynau cynnal a chadw beiciau am ddim a hyfforddiant beicio.
  • Grŵp Defnyddwyr Bws Myfyrwyr a Grŵp Defnyddwyr Beiciau Myfyrwyr a drefnir bob yn ail fis.