Bydd y Gyfadran Meddygaeth Iechyd a Gwyddor Bywyd yn cynnal ymarfer hyfforddiant ynghylch digwyddiad mawr ar gyfer myfyrwyr blwyddyn olaf parafeddygaeth ddydd Gwener 10 Mai ar ardal Dôl yr Abaty ar Gampws Singleton.

Bydd yr ymarfer yn dod â myfyrwyr parafeddygaeth, staff ac aelodau Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) ynghyd i gymryd rhan mewn efelychiad gwrthdrawiad mawr ar y ffordd sy’n cynnwys anafiadau i nifer o bobl.

Bydd yr ymarfer yn cael ei greu’n ofalus i efelychu sefyllfa go iawn ac anafiadau realistig oherwydd ei nod yw helpu myfyrwyr parafeddygaeth i ddatblygu eu profiad o frysbennu, cludo a rheoli cleifion yn ystod digwyddiad mawr.

Bydd yr ymarfer yn dechrau tua 10.15am ac yn gorffen tua 4.30pm. Yn ystod yr amser hwn, bydd  mwy o weithgarwch a cherbydau argyfwng yn ardal Dôl yr Abaty, a fydd ar gau i staff a myfyrwyr.

Rydym yn deall gall hyn fod yn ofidus i rai pobl, er ei fod yn ddigwyddiad hyfforddiant pwysig iawn i fyfyrwyr. Cynghorir y rhai hynny sy’n teimlo’n ofidus oherwydd yr efelychiad i osgoi’r ardal.