Mae Caleb Azumah Nelson wedi ennill y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – am ei nofel Small Worlds (Viking, Penguin Random House UK).
Yn ôl y panel beirniadu eleni, mae Small Worlds yn waith ysgogol sy’n adrodd stori bersonol tad a mab a osodir rhwng de Llundain a Ghana dros dri haf. Mae’r fuddugoliaeth yn cadarnhau bod yr awdur Prydeinig-Ghanaidd, sy’n 30 oed, yn un o sêr cynyddol ffuglen lenyddol, yn dilyn ei nofel gyntaf glodfawr, Open Water, a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2022.
Cyflwynwyd y wobr fyd-eang gwerth £20,000 – sy’n dathlu llenorion eithriadol o dalentog 39 oed neu’n iau – i Caleb Azumah Nelson mewn seremoni a gynhaliwyd yn Abertawe nos Iau 16 Mai.