Mae Discovery, Elusen Gwirfoddoli Myfyrwyr Abertawe, yn falch iawn o gyhoeddi ei hanrhydedd diweddar: cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg. Mae’r Cynnig Cymraeg, a ddyfernir gan Gomisiynydd y Gymraeg, yn dystiolaeth o ymroddiad Discovery i ddarparu gwasanaethau Cymraeg drwy wirfoddoli. Mae’r gydnabyddiaeth hon nid yn unig yn arwydd o ymrwymiad Discovery i’r iaith ond hefyd mae’n dangos i’r cyhoedd bod gwasanaethau Cymraeg ar gael.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Discovery wedi dangos ei hymrwymiad i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant drwy amryw o fentrau. Mae’r rhain yn cynnwys darparu 10 cyfle gwirfoddoli untro yn y Gymraeg, trefnu 14 awr o Glwb Cymraeg, a chofrestru dros 100 o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ar ei llwyfan gwirfoddoli. Yn nodedig, mae tua 9% o wirfoddolwyr gweithredol Discovery yn nodi eu bod yn siaradwyr Cymraeg neu’n ddysgwyr, tra bod 80% o’i staff wrthi’n dysgu Cymraeg.

Wrth edrych i’r dyfodol, mae Discovery yn ymrwymedig i’w chenhadaeth i wella’r ddarpariaeth Gymraeg. Ymhlith yr amcanion allweddol mae sicrhau bod prosiectau Cymraeg ar gael yn barhaus ar ei llwyfan gwirfoddoli, trefnu cyfleoedd gwirfoddoli untro misol yn y Gymraeg, cydweithio â sefydliadau academaidd i ymgysylltu â myfyrwyr Cymraeg, a darparu cyfathrebiadau dwyieithog ar draws pob sianel.

Pwysleisiodd Eleanor Norton, Cyfarwyddwr Discovery, ymrwymiad y sefydliad i feithrin hyfedredd yn y Gymraeg ymhlith ei rhanddeiliaid. “Nod Discovery yw gwella amlygrwydd y Gymraeg a’r defnydd ohoni, gan alluogi staff, gwirfoddolwyr, cefnogwyr a defnyddwyr i ryngweithio’n gyfforddus yn y naill iaith neu’r llall. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg fel rhan hollbwysig o dreftadaeth a hunaniaeth ein gwlad,” meddai Norton.

Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, meddai Priya, gwirfoddolwr gyda Discovery, “Trwy wirfoddoli, rydw i wedi magu hyder wrth siarad Cymraeg ac mae gen i ymdeimlad cryfach o berthyn i’r gymuned. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb sy’n dymuno ei dysgu a’i siarad, a dwi’n falch o fod yn rhan o hynny.”