Helo gan Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn gyffrous i rannu gweithdy AM DDIM arall yn dechrau ar y 30ain o Fai ar Gampws y Bae!

Cyflwyniad i raglennu Python

Mae’r gweithdy pedair awr hwn yn rhoi cyflwyniad i gyfranogwyr i ddatrys problemau cyfrifiadurol gan ddefnyddio’r iaith raglennu Python. Bydd myfyrwyr yn ennill:

  • Dealltwriaeth o beth yw meddylfryd cyfrifiadurol.
  • Y gallu i ddatblygu atebion cyfrifiadurol i broblemau.
  • Dealltwriaeth o gysyniadau rhaglennu craidd.
  • Sgiliau rhaglennu Python sylfaenol.

Wythnos 1: 10yb – 12yp ar Ddydd Iau 30eg o Fai

Wythnos 2: 10yb – 12yp ar Ddydd Iau 6eg o Mehefin

Mae’r gweithdai hyn am ddim diolch i gymorth ariannol gan Lywodraeth y DU a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Cynhelir yr holl sesiynau yn 104 Y Twyni, Campws y Bae.

Cofrestrwch trwy lenwi’r ffurflen hon neu e-bostiwch Maria Moller.