Wyt ti wedi prynu dy docyn ar gyfer Dawns Haf Abertawe eto? Mae’n digwydd ar Ddydd Gwener 7fed Mehefin ar Gampws Singleton.

Os nad oeddet ti’n gwybod, nid digwyddiad tei du yw hwn. Mae’n ŵyl undydd i fyfyrwyr gyda cherddoriaeth fyw, reidiau ffair, diodydd rhad, bwyd gwych a naws yr haf, wedi’i drefnu gan @swanseaunisu!

Bydd DJs adnabyddus ar y brig (Casso, Bou gyda B Live 24-7 a Nathan Dawe) yn ogystal ag actau byw a setiau eraill gydag amrywiaeth o themau o roc amgen i bop.

Prynwch eich tocynnau ar wefan Undeb y Myfyrwyr cyn iddynt werthu allan! Gallwch hyd yn oed wahodd ffrind o gartref i ddangos iddynt sut rydym yn dechrau’r haf mewn steil.