Dewch draw ar un o’r dyddiadau canlynol! A chofiwch ddod â’ch beic os oes gennych un. Gall myfyrwyr sy’n dod â’u beic i mewn gyda nhw dderbyn cloeon a goleuadau am ddim.

Dydd Llun, 3ydd Mehefin 10am tan 4pm y tu allan i Fulton House, Campws Parc Singleton

Dydd Mawrth 4ydd Mehefin 10am tan 4pm y tu allan i’r Ysgol Reolaeth, Campws y Bae

Fel arfer, bydd llawer yn digwydd gan gynnwys:

  • Sesiynau Dr Bike
  • Gwybodaeth am ostyngiad ar offer beicio
  • Gwybodaeth am hyfforddiant beicio
  • Gwybodaeth a threialon beiciau wedi’u haddasu
  • Cyngor ar ddiogelwch a marcio beiciau diogelwch
  • Gwybodaeth am aelodaeth am ddim ar gynllun beicio Santander Abertawe