I ddathlu Diwrnod Amgylchedd y Byd (5 Mehefin), bydd Canolfan y Celfyddydau Taliesin ar Gampws Singleton y Brifysgol yn cynnal dangosiad sinema arbennig o Gyfres Ddogfennol arobryn Gŵyr – Rhagsgrinio cyntaf o’r Ail Gyfres.
Dangosir y gyfres yn y Taliesin ar 5 Mehefin am 7.30pm a bydd yn cynnwys ffilmiau sy’n arddangos tirweddau godidog Penrhyn Gŵyr a de Cymru.
Mae ffilmiau Gŵyr yn cyfuno diwylliant Cymreig â rhythmau naturiol y byd, gan gynnig portread o Benrhyn Gŵyr a de Cymru nas gwelwyd o’r blaen. Profwch yr hanes, y diwylliant, y fflora a ffawna lleol sydd oll yn gwneud ein rhanbarth yn unigryw.
Mae’r prosiect cyd-greu hwn yn cael ei arwain gan ymrwymiad ffilmiau Gŵyr i ddatblygu cynaliadwy drwy’r celfyddydau a diwylliant. Mae pob ffilm yn gam tuag at ddeall a diogelu treftadaeth ddiwylliannol a naturiol Gŵyr a Chymru.
Cymerwch ran mewn sesiwn holi ac ateb sy'n ysgogi'r meddwl
Ymunwch â ffilmiau Gŵyr ar ôl y dangosiad ar gyfer sesiwn holi ac ateb arbennig lle bydd cyfle i’r gynulleidfa sgwrsio â chyfarwyddwr, tîm cynhyrchu, ac arbenigwyr amgylcheddol Gwŷr. Gallwch ddysgu am y straeon sy’n gefndir i’r ffilmiau, trafod eu themâu pwerus ac archwilio atebion am ddyfodol cynaliadwy.