Hoffem eich gwahodd i ddiwrnod profiad Ysgol Uwchradd a gynhelir yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, Ffordd Llandennis, Cyncoed, Caerdydd, CF23 6WG, ddydd Mawrth 25 Mehefin rhwng 10.00am ac 2.00pm.
Bydd yr ymweliad yn gyfle i arsylwi ar wersi, cwrdd â rhai o dîm y Brifysgol yn ogystal â staff a disgyblion o un o’n Hysgolion Arweiniol.
Mae rhaglen yr ymweliad i’w gweld isod:
- Croeso gan staff Ysgol Uwchradd Caerdydd a’r Brifysgol
- Panel disgyblion
- Cyflwyniad Addysgwyr Cymru
- Arsylwi ar wers
- Sesiwn holi ac ateb gydag athrawon newydd gymhwyso a thîm y brifysgol
Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gadw eich lle erbyn dydd Llun 24 Mehefin 10am.
Os bydd digon o bobl yn cofrestru rydym yn bwriadu cynnig cludiant o Brifysgol Abertawe, Campws Singleton SA2 8PP. Byddwch yn gallu archebu eich tocyn cludiant drwy’r ddolen uchod.
Cysylltu â ni: ymholiadau-tar@abertawe.ac.uk