Mae Oli Fryatt, sy’n astudio am PhD mewn Peirianneg Fecanyddol, wedi ennill rownd derfynol cystadleuaeth Thesis Tair Munud (3MT) Prifysgol Abertawe.
Cynhaliwyd y digwyddiad fel rhan o’r Ŵyl Ymchwil Ôl-raddedig, cyfres o ddigwyddiadau mis o hyd i arddangos yr ymchwil flaengar sy’n cael ei chyflawni gan fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe.
Roedd Oli yn fuddugol yn erbyn 13 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig eraill o dair cyfadran y brifysgol i hawlio’r brif wobr.
Yn ei gyflwyniad gafaelgar, trafododd Oli yr angen dybryd i wella dulliau ailgylchu paneli solar ar ddiwedd eu hoes er mwyn adfer deunyddiau craidd gwerthfawr. Amlygodd ddull ailgylchu arloesol gan ddefnyddio nitrogen hylifol, sy’n meddu ar y potensial i helpu’r broses o drawsnewid i ynni gwrdd, a hynny’n sylweddol, drwy fabwysiadu egwyddorion yr economi gylchol.
Mae 3MT, a sefydlwyd gan Brifysgol Queensland yn 2008, yn gystadleuaeth ryngwladol a gynhelir mewn mwy na 200 o brifysgolion ledled y byd. Mae’n herio myfyrwyr PhD i gyflwyno eu hymchwil mewn tair munud yn unig gan ddefnyddio un sleid PowerPoint sefydlog. Nod y gystadleuaeth yw gwneud pynciau ymchwil cymhleth yn hygyrch i gynulleidfa eang heb wybodaeth arbenigol am y maes.
Rydyn ni’n un o oddeutu 70 o sefydliadau yn y DU sy’n cyfranogi yn y fenter fyd-eang hon. Mae cystadleuaeth 3MT yn annog myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i rannu eu gwaith a’u brwdfrydedd â chynulleidfaoedd anarbenigol, gan arddangos ansawdd ac amrywiaeth eu hymchwil a’i heffaith ar y byd.
Gan fyfyrio ar ei gyflawniad, meddai Oli Fryatt: “Mae cyfranogi yng nghystadleuaeth 3MT wedi bod yn brofiad gwych a wnaeth fy herio i rannu fy ymchwil mewn modd gafaelgar a chryno. Mae ennill y gystadleuaeth ym mlwyddyn gyntaf fy PhD wedi hybu fy hyder wrth gyflwyno fy ymchwil ac mae’n cadarnhau’r diddordeb yn y gwaith hwn tuag at hyrwyddo dyfodol gwyrddach, a’i bwysigrwydd.”
Ychwanegodd yr Athro Gert Aarts, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe: “Y Digwyddiad Arddangos Ymchwil Ôl-raddedig, sy’n cynnwys rownd derfynol a seremoni wobrwyo cystadleuaeth 3MT, yw uchafbwynt ein Gŵyl Ymchwil Ôl-raddedig flynyddol. Mae’r digwyddiadau cyffrous hyn yn dod â’r holl gymuned ymchwil a chymorth ymchwil ynghyd ar draws ein cyfadrannau ac yn galluogi ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i ddisgleirio gerbron cynulleidfa eang a brwd.
“Eleni, creodd natur ddybryd llawer o’r prosiectau ymchwil argraff arna i, gan amrywio o nyrsys byddar yn y GIG a chywirdeb profion llif unffordd, i waredu haenau tenau iawn o baent ac ailgylchu celloedd solar. Mae’n destun ysbrydoliaeth gweld bod ein myfyrwyr ymchwil am newid pethau a’u bod yn gwireddu eu haddewid.”
Bydd Oli Fryatt bellach yn mynd rhagddo i rownd gogynderfynol cystadleuaeth 3MT y DU ym mis Gorffennaf. Bydd yn gobeithio cael cyfle i gystadlu yn rownd derfynol ar-lein y DU ym mis Medi, a gynhelir gan Vitae, sy’n flaenllaw’n fyd-eang wrth ddatblygu ymchwilwyr.