Rydym am recriwtio tîm o Hyfforddwyr Bod yn Actif brwdfrydig ac ymroddedig sy’n gallu ymgysylltu’n effeithiol â myfyrwyr, eu hysgogi i fod yn fwy actif a chreu cyfleoedd i’w helpu i gynnal eu lefelau gweithgarwch. Rydym yn disgwyl i’r Hyrwyddwyr gyflwyno rhwng 1 a 4 awr o weithgareddau’r wythnos (yn ystod y tymor yn bennaf). Bydd mwy o oriau ar gael yn ystod oriau brig. Bydd hyrwyddwyr yn cynnal gweithgareddau a amserlennir bob wythnos, yn helpu i recriwtio cyfranogwyr newydd drwy hyrwyddo sesiynau Bod yn ACTIF ac yn helpu i gyflwyno digwyddiadau hyrwyddo.
Y mathau o Actifyddion mae eu hangen arnom:
- Cyffredinol – cyflwyno amrywiaeth o sesiynau gweithgareddau gwahanol o badminton, pêl-droed, pêl-rwyd, pêl-fasged. Mae hefyd yn cynnig gweithgareddau ar y traeth, cefnogi digwyddiadau/heriau a sesiynau dros dro.
- Rhedeg – cyflwyno teithiau rhedeg cymdeithasol o bellterau amrywiol, gan gynnwys rhaglenni ‘couch to 5k’ a llwybrau ffitrwydd sy’n cynnwys teithiau rhedeg byr mewn cyfuniad â gorsafoedd ymarfer corff ar ffurf cylchedau.
- Cerdded – darparu teithiau cerdded oddi ar y campws, o amgylch Abertawe a’r ardaloedd cyfagos.
- Cyfryngau cymdeithasol – i ddefnyddio’r sianel Instagram Bod yn ACTIF yn rhagweithiol i arddangos a hyrwyddo ein sesiynau.
- Antur yn yr awyr agored – cyflwyno sesiynau dringo creigiau a dringo i ddechreuwyr/cyflwyniad, gweithgareddau heicio a/neu weithgareddau dŵr.
Rhaid i chi:
- Fod yn fyfyrwyr (israddedig neu ôl-raddedig) ym Mhrifysgol Abertawe.
- Feddu ar ddiddordeb mewn ffyrdd o fyw actif ac yn frwdfrydig am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol i’n myfyrwyr.
- Nid oes rhaid i chi fod yn rhan o glwb chwaraeon – rydym am gael myfyrwyr sy’n mwynhau ac yn ymrwymedig i fod yn actif ac eisiau helpu eraill i fod yn fwy actif yn
- Feddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog, sgiliau rhyngbersonol a rheoli amser da, gyda’r gallu i weithio fel rhan o dîm yn ogystal ag ar eich pen eich hun.
Dyddiad cau: 20 Mehefin 2024