Mae’n bwysig ein bod yn eich hysbysu o 1 Gorffennaf na fydd y Gwasanaeth Tân ynymateb i alwadau sy’n deillio o systemau Larwm Tân Awtomatig. Bydd hyn yn effeithio ar yr holl safleoedd ar y campws, oni bai am ein hadeiladau preswyl – bydd y frigâd dân yn parhau i ymateb i alwadau o’r Neuaddau Preswyl fel yr arfer. Bydd ein Tîm Gwasanaethau Diogelwch yn derbyn yr holl hysbysiadau o adeiladau nad ydynt yn rhai preswyl.

Gallwch gael ragor o wybodaetham y newidiadau hyn ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Sut bydd hyn yn effeithio ar Fyfyrwyr ar y Campws?

Os bydd larwm tân yn canu, mae eich blaenoriaeth yn parhau’r un peth: i adael yr adeilad.

Os ydych yn gweld neu’n amau tân posib:

  1. Codwch y larwm drwy ganu’r larwm tân
  2. Gadewch yr adeilad drwy’r allanfa agosaf
  3. Cysylltwch â’r Gwasanaeth Tân yn defnyddio’r ap SafeZone neu drwy alw 999
  4. Hysbyswch y Tîm Diogelwch o’r sefyllfa pan fyddant yn cyrraedd i ymchwilio

Os oes gennych gwestiynau am y newidiadau neu ddiogelwch tân yn gyffredinol, cysylltwch â ni.

Diolch am eich cydweithrediad.

Y Tîm Iechyd a Diogelwch