Mae Cymru yn chwarae Kosovo yn Rownd Ragbrofol UEFA EURO 2025 yn Llanelli ar ddydd Mawrth 16 Gorffennaf am 19:15.

Mae Cymru yn ddiguro yn y rowndiau rhagbrofol a byddem wrth ein bodd pe gallech ymuno â ni ar gyfer noson wych o bêl-droed wrth i ni edrych i dyfu’r gêm i ferched ledled Cymru.

Mae prisiau arbennig ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe sef £8* am oedolion, £6* i fyfyrwyr a £3* ar gyfer plant 16 ac o dan. Bydd y pris yma ar gael tan ddydd Mawrth, 2 Gorffennaf.

Dilynwch y ddolen, gwnewch gyfrif newydd, os dych chi heb wneud yn barod, ac ewch i’r gêm Cymru v Kosovo. Byddwch chi wedyn yn gallu gweld y pris arbennig ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Ar gyfer bwciadau grŵp o 10 a mwy, a wnewch chi yn garedig fynd at y ddolen yma.

*Ffi bwcio yn berthnasol