Ydych chi’n cynllunio bod yn Abertawe dros yr Haf? P’un a ydych chi’n aros am ychydig o hwyl yn yr haul, neu i astudio, gwnewch yn siŵr i wirio beth sy’n mynd ymlaen ar draws y ddinas a’r rhanbarth. O wyliau i ddigwyddiadau i draethau anhygoel, mae gan Abertawe rhywbeth i bawb. Peidiwch â cholli allan ar yr holl gyffro!
Beth sy’n digwydd ym Mhrifysgol Abertawe
Mae digon o waith yn digwydd yn y Brifysgol dros yr haf. I gael y wybodaeth ddiweddaraf edrychwch ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n calendrau!
Rydym yn diweddaru ein Calendr Digwyddiadau MyUni a’r cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd gyda’r gweithgareddau diweddaraf, ac mae gan Undeb y Myfyrwyr galendr ‘Digwyddiadau’ lle gallwch gymryd rhan mewn digwyddiadau gwych!
Drwy gydol yr haf, mae gan dîm Bywyd Campws lu o ddigwyddiadau, o sesiynau myfyrdod dan arweiniad i ffilmiau a theithiau wedi’u trefnu, dewiswch chi! Cliciwch yma i drefnu tocynnau a chael mwy o wybodaeth.
Sioe Awyr Cymru
Mae Sioe Awyr enwog Cymru yn cael ei chynnal ar 6 a 7 Gorffennaf, ac mae’n rhaid i chi weld a ydych chi wedi penderfynu cadw o gwmpas yn Abertawe.
Bydd yn cynnwys arddangosfeydd daear, awyrennau sefydlog, arddangosfeydd, cerddoriaeth, reidiau ac wrth gwrs sioe ysblennydd yn yr awyr.
I lawrlwytho ap swyddogol Sioe Awyr Cymru ac i ddarganfod beth i’w ddisgwyl, ewch draw i wefan swyddogol Sioe Awyr Cymru.
Cerddoriaeth Fyw
Os ydych yn mwynhau cerddoriaeth fyw, edrychwch i weld yr artistiaid gwych sy’n perfformio’n fyw ym Mharc Singleton ym mis Gorffennaf. Bydd y canwr/cyfansoddwr James Arthur yn perfformio ar Ddydd Iau’r 18fed o Orffennaf, wedi’i dilyn can Classic Ibiza ar Ddydd Gwener y 19eg o Orffennaf. Os nad yw hynny’n apelio, peidiwch â phoeni am fydd Let’s Rock Wales yn cymryd lle ar Ddydd Sadwrn y 20fed o Orffennaf. Peidiwch â cholli’ch cyfle i brofi cerddoriaeth wych ar garreg eich drws.
Mae yna leoliadau ar draws y ddinas gyda llawer i’w gynnig, gan gynnwys Theatr y Grand, Theatr Dylan Thomas ac Arena Abertawe.
Cofiwch am y lleoliadau cerddoriaeth fyw bach, annibynnol a niferus ar draws y ddinas hefyd!
Bywyd ar y Traeth
Mae gan Gampws Singleton a Champws y Bae draethau gwych ar eu stepen drws, ond os byddwch yn mentro ychydig ymhellach byddwch yn cyrraedd traethau Gŵyr sy’n enwog am eu harddwch!
Mae gan lawer o’n traethau filltiroedd o dywod euraid, sy’n ddelfrydol am weithgareddau fel pêl-foli neu griced. Os oes arnoch awydd mynd i’r dŵr, mae llu o weithgareddau i gymryd rhan ynddynt o amgylch Abertawe, gan gynnwys syrffio, bordhwylio, caiacio a phadl-fyrddio sefyll i fyny…mae’r rhestr yn ddiddiwedd! Gwnewch y gorau o’n harfordir hyfryd ac efallai canfod diddordeb newydd i chi’ch hun. Cliciwch yma i weld yr hyn sydd ar gael.
Mae manylion am sut i gyrraedd holl atyniadau Gŵyr ar gludiant cyhoeddus yma, a chofiwch edrych ar Ganllaw Traethau Bae Abertawe i ddechrau ar eich antur.
Os ydych yn bwriadu mwynhau picnic neu farbeciw gyda ffrindiau ar y traeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn tacluso ar eich ôl! Gallech ennill ‘pwyntiau gwyrdd’ hefyd drwy ap Swell.
Atyniadau Lleol
Os nad ydych wedi cael cyfle i archwilio’r ddinas, dyma eich cyfle i ymweld â rhai o’r atyniadau lleol.
Beth am ymweld â’r Mwmblws, taith fer ar hyd glan y môr, lle byddwch yn dod o hyd i lawer o gaffis, bwytai, bariau a siopau annibynnol.
Promenâd Abertawe yn berffaith ar gyfer taith beic! Rydym wedi sicrhau bod aelodaeth flynyddol Beiciau Santander ar gael AM DDIM i holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, felly ewch i’n tudalennau gwe i gael cyfarwyddiadau ar sut i gofrestru.
Rydym yn gwybod nad yw tywydd Cymru bob amser yn sych, felly peidiwch â phoeni, mae digon o leoedd i ymweld â nhw ar ddiwrnod diflas! Os nad ydych wedi cael cyfle i archwilio’r ddinas, dyma eich cyfle i ymweld â rhai o’r atyniadau lleol. Mae amgueddfeydd ac orielau gwych, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, oriel gelf Glynn Vivian a’r Ganolfan Eifftaidd ar Gampws Singleton. Ydych chi wedi ymweld â’r sŵ coedwig law go iawn yng nghanol dinas Abertawe? Os ydych yn hoffi anifeiliaid, dylech ymweld â Plantasia lle gallwch gwrdd â 40 o rywogaethau gwahanol gan gynnwys crocodeilod, swricatiaid, mwncïod, cathod llewpard a llawer mwy!
Os ydych yn hoffi chwaraeon dŵr sydd ychydig yn gynhesach, yr LC yw’r lle i fynd! Dyma un o ganolfannau parc dŵr a hamdden gorau Cymru, lle gallwch nofio, syrffio a dringo.
Am fwy o ddigwyddiadau, edrychwch ar dudalennau gwe Croeso Bae Abertawe.
Beth am ymweld â marchnadoedd lleol?
Eisiau rhoi cynnig ar gynnyrch Cymreig ‘lysh’? Wel, rydych chi mewn lwc oherwydd bydd ein marchnadoedd lleol yn rhedeg trwy gydol yr Haf. Gallwch ddewis pa leoliad sydd fwyaf addas i chi o’r Marina, y Mwmbwls i’r Ucheldiroedd.
Peidiwch ag anghofio i ymweld â Marchnad Abertawe hefyd, sef y farchnad dan do fwyaf yng Nghymru ac sydd wedi’u choroni’n Farchnad Dan Do Fawr Orau Prydain 2024!