Byddwn yn cynnal gwaith uwchraddio pwysig ar gysylltiadau Rhyngrwyd y Brifysgol ar Gampws y Bae a Champws Singleton ddydd Mawrth 25 Mehefin rhwng 06:30 ac 08:30.

Mae’r gwaith yn cynnwys newidiadau i’r rhwydwaith i ddiogelu’n prif gampysau rhag colli cysylltiad â’r Rhyngrwyd os bydd y cylched data’n methu ar Gampws y Bae neu Gampws Singleton, ac o ganlyniad i’r gwaith bydd cysylltiad y Brifysgol â’r Rhyngrwyd yn fwy gwydn. Ein nod yw cynnal cysylltiad â’r Rhyngrwyd trwy gydol yr holl waith hwn, ond mae perygl y bydd yn amharu ar y gwasanaeth am gyfnodau byr wrth i ni brofi’r ffurfweddiad newydd.

Ymddiheurwn o flaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.