Diweddariad: Dylai’r problemau cysylltedd diwifr y gallech fod wedi’u profi y bore yma gael eu datrys nawr. Os ydych chi’n dal yn gael problemau wrth gysylltu â’r rhwydwaith yn ddiwifr, cysylltwch â’r Ddesg Wasanaeth TG ar 01792 604000 neu drwy e-bost.

Mae nifer o staff a myfyrwyr ar hyn o bryd yn profi problemau cysylltedd diwifr ar draws ein campysau. Hoffai Gwasanaethau Digidol ymddiheuro am unrhyw amhariad a achosir gan hyn a gallwn eich sicrhau ein bod yn gweithio ar y mater hwn fel mater o frys.

Sut bydd hyn yn effeithio arnoch chi?

Efallai y byddwch yn sylwi ar broblemau gyda chysylltedd rhwydwaith. Dylai’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr allu ailgysylltu â rhwydwaith wifi Eduroam heb unrhyw broblem. Os bydd problemau’n parhau, cysylltwch â’r Ddesg Wasanaeth TG ar 01792 604000 neu drwy e-bost.