Rydym yn edrych ymlaen at dy groesawu di i’th seremoni raddio sydd ar ddod yn arena drawiadol Abertawe, sef lleoliad digwyddiadau diweddaraf a mwyaf cyffrous de Cymru.

Dyma rai awgrymiadau am deithio cyn dy ymweliad:

Teithio mewn car

Dylet ti fewnbynnu ‘Swansea Arena’ i’th hoff ap gwe-lywio neu fewnbynna SA1 3BX i’th Sat Nav.

Os wyt ti’n cyrraedd ar yr M4, dylet ti ddefnyddio allanfa 47 os wyt  ti’n teithio o’r gorllewin neu allanfa 42 os wyt ti’n teithio o’r dwyrain.

Gellir cyrraedd Arena Abertawe yn hawdd mewn car ac mae nifer o feysydd parcio cyhoeddus yng nghyffiniau’r Arena. Dyma restr o feysydd parcio a argymhellir gan yr Arena a’u prisoedd.

Mae Uber yn gweithio yn Abertawe bellach; mae’r gwasanaeth adnabyddus hwn sydd ar gael ar alwad yn barod i’th wasanaethu, yn ogystal â’th ddarparwyr tacsis cymeradwy lleol arferol.

Teithio ar y trên neu’r bws

Gellir cyrraedd Arena Abertawe ar droed mewn 10 munud neu mewn 6 munud mewn car o orsaf drenau Abertawe ac mae gorsaf fysiau Abertawe’n agosach byth.

Mae gan Abertawe orsafoedd trenau a bysiau â chysylltiadau da sy’n cynnwys llawer o lwybrau ledled Abertawe, Cymru, y Gororau, Manceinion a de Lloegr.

Oes angen i ti storio dy fagiau? Mae gan Gyngor Abertawe gyfleusterau storio bagiau sydd ar gael i’w defnyddio drwy siop Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe. Gellir dod o hyd i gostau, oriau agor a rhagor o wybodaeth yma.

Map graddio

Ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl? Defnyddia ein Map Graddio newydd i ymgyfarwyddo â chyffiniau dy ddigwyddiad!

Mae’n hawdd llywio’r map rhyngweithiol hwn ac mae’n gallu tawelu dy feddwl cyn y diwrnod mawr.

Yn aros dros nos?

Os wyt ti’n ystyried aros dros nos cyn a/neu ar ôl dy seremoni, beth am aros ar ein Campws y Bae?

Dyma opsiwn ardderchog i ti a’th ffrindiau a/neu dy deulu archebu llety diogel a chyfarwydd, wrth fwynhau mynediad uniongyrchol at ein traeth hardd.

Cynaliadwyedd

Fel rhan o’n Strategaeth Cynaliadwyedd a Newid yn yr Hinsawdd, rydym yn annog yr holl raddedigion i ystyried opsiynau teithio sy’n ddiogel ac sydd o les i’r amgylchedd. Gelli di ddarllen rhagor am ein gwaith yma.

Hygyrchedd

Rydym am i ti a’th ffrindiau/deulu gael profiad cynhwysol a phleserus gyda ni. Mae Arena Abertawe wedi darparu rhagor o wybodaeth o ran hygyrchedd y lleoliad.

Oes gennyt gwestiwn neu ymholiad? Edrycha ar ein tudalennau gwe i gael rhagor o wybodaeth neu gelli di gysylltu â’n tîm graddio a fydd yn hapus i dy helpu di.