Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim a gynhelir ar 6 a 7 Gorffennaf, yn cynnwys arddangosfeydd daear, awyrennau ar y ddaear, arddangosiadau a sioe wefreiddiol yn yr awyr.
Lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru ac i ganfod yr hyn i’w ddisgwyl, ewch draw i dudalennau gwe Sioe Awyr Cymru.
Bydd y safle ar agor rhwng 10am a 6.00pm ar y ddau ddiwrnod fel y gallwch fwynhau penwythnos llawn acrobateg awyr anhygoel a gweithgareddau llawn hwyl ar y ddaear, megis cerddoriaeth, arddangosiadau, reidiau a llawer mwy!
Bydd llawer o ffyrdd ar gau er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn hwylus ac yn ddiogel. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Mwynhewch a chofiwch ein tagio yn eich lluniau os byddwch yn tynnu rhai! @myuniabertawe.