Mae Platfform Amgylchedd Cymru yn gydweithrediad sy’n ceisio pontio’r bylchau rhwng ymchwilwyr, darparwyr tystiolaeth a llunwyr polisi. Rydym yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau ymchwil ledled Cymru.
Cofrestrwch eich proffil ar y Gronfa Ddata Ymchwilwyr
Mae Cronfa Ddata Ymchwilwyr Llwyfan yr Amgylchedd Cymru yn rhoi arweiniad cynhwysfawr i bwy sy’n ymchwilio i beth mewn ymchwil amgylcheddol yng Nghymru.
Yn ogystal ag uwch academyddion/ymchwilwyr rydym yn croesawu cofrestriadau gan fyfyrwyr PhD ac Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar.
Cyflwyno'ch ymchwil
Mae cyfres Cipolwg Cymru / Insights Wales o Lwyfan yr Amgylchedd Cymru yn rhoi cyfle i chi gyflwyno eich ymchwil i randdeiliaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y gyfres hefyd yn amlygu’r gofynion ar gyfer ymchwil a thystiolaeth i gefnogi penderfyniadau polisi amgylcheddol. Cysylltwch â ni os hoffech gyflwyno yn ein cyfres Insights Wales 2024-25. Gallwch weld digwyddiadau sydd i ddod a recordiadau blaenorol ar wefan EPW.
Trefnu gweithdy neu ddigwyddiad pwrpasol
Mae Platfform Amgylchedd Cymru yn awyddus i weithio gyda myfyrwyr PhD ar allgymorth ymchwil. Gallwn weithio gyda chi i gyrraedd yr arbenigwyr sydd eu hangen arnoch a hyrwyddo eich gwaith i randdeiliaid allweddol. Cysylltwch i weld sut gallwn ni helpu.
Ymunwch â chymuned ymchwil
Mae Platfform Amgylchedd Cymru yn cynnal nifer o gymunedau thematig o ymchwil, gan ddod ag arbenigwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt ynghyd. Mae’r pynciau’n cynnwys:
- Ymchwil Cronfeydd Dŵr
- Diogelwch Tomenni Glo
- Yr Amgylchedd a Heddwch
- Arsylwi’r Ddaear a Gofod Cynaliadwy
- Tystiolaeth Forol
Mae manylion y grwpiau uchod, ac eraill, i’w gweld ar ein gwefan.
Os hoffech ymuno ag un o’n grwpiau presennol, cysylltwch â ni.
Lleoliadau Myfyrwyr PhD
Mae Platfform Amgylchedd Cymru yn helpu i hyrwyddo lleoliadau myfyrwyr PhD gan bartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Gall defnyddwyr tystiolaeth a myfyrwyr elwa’n fawr o gydweithio ar brosiectau polisi a thystiolaeth tymor byr. Nod Platfform Amgylchedd Cymru yw cynyddu’r ystod o gyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng ein haelodau.
Cyngor Gyrfaoedd Amgylcheddol
Mae staff Platfform Amgylchedd Cymru yn cynnig cyngor gyrfaoedd amgylcheddol i fyfyrwyr ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Gwnawn hyn drwy fynychu ffeiriau gyrfaoedd a thrwy ddarparu gwybodaeth ar ein gwefan. Mae’r olaf yn cynnwys cysylltiadau â chyfleoedd swyddi cyfredol. Ewch i’n tudalennau hyb gyrfaoedd myfyrwyr.