Wyddech chi y gallwch chi, ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, gael mynediad at gymorth gydol oes ynghylch gyrfaoedd a chyflogadwyedd? Rydyn ni yma i’ch cefnogi i gael gyrfaoedd gwobrwyol sy’n rhoi boddhad, hyd yn oed ar ôl i chi raddio!

Os nad ydych chi’n siŵr am eich camau nesaf neu os hoffech chi gael cymorth i arddangos eich sgiliau a’ch rhinweddau, rydyn ni yma i chi. Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd parhaus i’n cymuned o gyn-fyfyrwyr, ni waeth pryd graddioch chi.