Mae rhaglen amser llawn TAR Cyfrifiadureg gyda Statws Athro Cymwysedig Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe, sy’n para am flwyddyn, yn dechrau ym mis Medi 2024.
Mae’r rhaglen arloesol hon wedi’i dylunio i wella eich gwybodaeth am y pwnc a’ch galluogi i ddatblygu arferion addysgu effeithiol a phroffesiynol. Byddwch yn gweithio’n gydweithredol gydag arbenigwyr pwnc yn ein hysgolion partner ledled Cymru yn ogystal â thiwtoriaid ac ymgynghorwyr academaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd eich astudiaethau’n cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd a lleoliadau mewn ysgolion.
Mae ystod o gymelliadau Llywodraeth Cymru gwerth hyd at £25,000 ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n astudio ar raglen TAR Cyfrifiadureg yng Nghymru.
Oes gennych chi ddiddordeb? Ymunwch â ni yn ystod ein Digwyddiad Rhithwir TAR Cyfrifiadureg a gynhelir ar 31 Gorffennaf rhwng 6.00pm a 7.00pm. Yn ystod y digwyddiad hwn, bydd modd i chi gael mwy o wybodaeth am y cyfle cyffrous hwn, cwrdd â thîm a myfyrwyr y rhaglen TAR yn ein sesiwn Holi ac Ateb fyw ar Zoom.