Rydym yn gyffrous i gyflwyno Rhwydwaith Cenedlaethol Arloesedd Chwaraeon ac Iechyd (NNIISH)!

Mae Prifysgol Abertawe, ynghyd â Bargen Ddinesig Bae Abertawe a’r byrddau iechyd lleol, yn arwain y fenter hon, sy’n bwriadu hybu twf technoleg chwaraeon, technoleg feddygol, ac arloesedd gofal iechyd yn y rhanbarth trwy gysylltu arbenigwyr lleol, cenedlaethol a byd-eang.

Mae NNIISH yn bartneriaeth gydweithredol, sy’n dod â’r byd academaidd, y diwydiant a’r GIG ynghyd. Ein nod yw adeiladu partneriaethau cryf, creu rhai newydd, denu pobl dalentog, a sicrhau buddsoddiadau i hybu’r economi leol a rhoi Abertawe ar y map fel arweinydd mewn technoleg feddygol a chwaraeon.

Os oes gennyt ti ddiddordeb mewn technoleg chwaraeon, technoleg meddygol neu ofal iechyd a hoffet ti fod yn rhan o gymuned amlddisgyblaethol blaenllaw NNIISH, dere’n aelod o NNIISH am ddim nawr. Bydd myfyrwyr yn derbyn cylchlythyr rheolaidd gyda newyddion a chyfleoedd sy’n berthnasol i’r diwydiant, gwahoddiadau i fynychu digwyddiadau’r rhwydwaith, mynediad i weithdai a gynhelir gan fusnesau, a chymorth cyflogadwyedd.